Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Bil Awtistiaeth (Cymru) drafft

Draft Autism (Wales) Bill

Arolwg Ar-lein DAB112

Online Survey DAB112

Ymateb gan Cyfrannog ar-lein 112

Evidence from Online Participant 112

Please refer to questions in the Online Survey.

Question

Answer

01

Yes

02

Yes

03

Yes

Mae yna gyrff eraill sydd yr un mor bwysig - ee, adrannau Llywodraetb y DU sy'n gweithredu  yng Nghymru megis DWP - ond nad ydynt o bosib o fewn pwerau'r setliad datganoli i r Cynulliad ddeddfu arnynt.

04

Yes

Byddai'n werth ystyried hynny wrth i gyni ariannol a thoriadau effeithio ar y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer pobl ag awtistiaeth a'u gofalwyr. Byddai hefyd yn rhoi grym i weithredu mewn achosion lle na fydd y strategaeth yn ddigon cryf ei geiriad i warc

05

Cytuno.

07

Cytuno.

08

Er lles yr unigolyn y mae arno angen asesiad a diagnosis, ac er lles y gofalwyr/rhieni sy'n ymgodymu â'r sefyllfa, mae angen rhoi blaenoriaeth i hyn. Gorau oll os yw Cymru yn arwain o ran gosod arfer da o ran amserlen darged.

09

Yes

10

Yes

12

Diffyg gallu i ddeall gohebiaeth a dogfennau  cymhleth; anghenion cyfathrebu, yn enwedig mewn sefyllfa ffurfiol, mewn cyfarfod, neu hyd yn oed dros y ffôn; nerfusrwydd ac amharodrwydd i fynychu cyfarfodydd; diffyg dealltwriaeth gan rai unigolion mewn rhai sefydliadau o gymhlethdod yr anhwylder, yn enwedig gan nad yw o reidrwydd yn anabledd amlwg, corfforol hawdd ei nabod; diffyg cydnabod diagnosis y rhai ar ben isaf y sbectrwm a diffyg unrhyw gefnogaeth iddynt fel oedolion wedi iddynt adael addysg ysgol  - a hynny yn eu gadael yn agored iawn i niwed.

13

Yes

14

Pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt hwy a'u gofalwyr ar ôl dyddiau addysg ffurfiol i fyw yn annibynnol, i ddod o hyd i swydd neu gyflogaeth addas, i'w cefnogi yn gymdeithasol.

15

It should be written on the Bill.

Er mwyn rhoi grym deddfwriaeth i'r gofynion.

16

Yes

Bydd gan Lywodraeth Cymru arbenivwyr ystadegol all gynghori ar gasglu data o'r fath, ac mae casglu'r data yn sail hanfodol ar gyfer creu strategaetb, gwneud polisi a'i roi ar waith. Tybed a oes angen cwestiwn ynghylch awtistiaeth hefyd ar lefel y cyfrifia

17

It should happen all the time.

Drwy'r amser, ond gydag ymrwymiad i gynnal ymgyrch gyfathrebu genedlaethol bob tair blynedd, ymgyrch a fyddai'n pontio gwaith nifer o feysydd polisi megis iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol etc . Byddai hyn yn gyfle i roi cyhoeddusrwydd i waith blaengar Cymru yn y maes awtistiaeth, yn ogystal â bod yn ffordd o godi ymwybyddiaeth.

18

Ni all ond daioni ddod o fil sy'n mynd ati i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a rhoi hawliau i'r rhai sy'n byw eu hoes gyda'r cyflwr. Mae cynseiliau mewn meysydd eraill yn profi bod manteision pendant i ddeddfu a bod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn llwyddo i ddylanwadu, i addysgu ac i oresgyn anwybodaeth, ac i symud agendâu yn eu blaenau a newid canfyddiadau. Mae dirfawr angen hyn yn gefn i'r rhai sy'n byw â'r cyflwr hwn, a'u teuluoedd, a da fyddaI gweld  Cymru yn braenaru"r tir ac yn arwain ar agenda sy'n rhoi tegwch i awtistiaeth fel cyflwr sy'n para oes, ond sydd, o gael y gefnogaeth briodol,  yn medru arwain at fyw bywyd eitha llawn.

Mae'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn un cwbl berthnasol i'r bil hwn. Pwysig i'r bil gydnabod hawliau pobl ag awtistiaeth o ran cael gwasanaethau yn Gymraeg - sy'n dipyn o her yn aml ar hyn o bryd, a hynny yn fater sensitif yn  achos unigolion y mae ganddynt anghenion cyfathrebu dybryd beth bynnag, heb i faterion dewis iaith fod yn broblem ychwanegol wrth ddarparu gwasanaethau iddynt.