PSB 12
Ddulliau gweithredu lleol ar gyfer lleihau tlodi: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus
Local Approaches to poverty reduction: The Well-Being of Future Generations Act and public service boards
Ymateb gan:
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Response from: Older people’s Commissioner

    

Gair am y Comisiynydd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais ac yn eiriolwr annibynnol ar ran pobl hŷn ledled Cymru, gan sefyll i fyny a siarad ar eu rhan. Mae hi’n gweithio i sicrhau bod y rheini sy’n fregus ac mewn perygl yn cael eu cadw’n ddiogel ac mae hi’n sicrhau bod gan bob person hŷn lais sy’n cael ei glywed, a bod ganddynt ddewis a rheolaeth. Mae hi am sicrhau nad yw pobl hŷn yn teimlo’n ynysig nac yn teimlo bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn, a’u bod nhw’n cael y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Yr hyn mae pobl hŷn yn ei ddweud sydd fwyaf pwysig iddyn nhw sy’n llywio gwaith y Comisiynydd ac mae eu llais wrth galon popeth mae hi’n ei wneud. Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru yn lle da i heneiddio – nid dim ond i ambell un, ond i bawb.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gwneud y canlynol:

·        Hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Annog ymarfer da o ran y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru.

·        Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 


 

Ymgynghoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch ‘Dulliau gweithredu lleol ar gyfer lleihau tlodi: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus’

1.    Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn[1]. Mae'n adeiladu ar fy ymatebion i ymgynghoriad ‘Tlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd’ (Mai 2017)[2], ac ymgynghoriad ‘Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Elfen 4’ (Ionawr 2015)[3]. Mae hefyd yn ategu’r ddogfen ‘Paratoi Cynlluniau Llesiant Lleol: Canllawiau i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus’, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016[4].

2.   Rwyf wedi cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o’r dechrau. Mae'r Ddeddf hon, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau cynaliadwy, ataliol a hirdymor i bobl o bob oed, yn ategu Fframwaith Gweithredu 2013-17, a’m blaenoriaeth gyntaf yn enwedig, sef ‘gosod lles pobl hŷn wrth galon gwasanaethau cyhoeddus’[5]. Mae sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus statudol yn rhan bwysig o’r Ddeddf, ac mae dod â phartneriaid allweddol o amrywiol sectorau at ei gilydd yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd, annibyniaeth a lles pobl hŷn. Daw heriau penodol yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, ond daw cyfleoedd hefyd, a gall y Ddeddf helpu i ddatblygu’r dull gweithredu ar sail asedau, h.y. buddsoddi mewn pobl hŷn a’u galluogi a’u grymuso i fod yn ofalwyr, yn wirfoddolwyr ac yn weithwyr yn ein cymunedau.

3.   Rhwng mis Rhagfyr 2014 a mis Gorffennaf 2016, ymwelodd fy swyddfa a minnau â phob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus/lleol yng Nghymru. Roedd y cyfarfodydd hyn yn hollbwysig ar gyfer trafod yr agendâu lles ac atal ar gyfer pobl hŷn, hybu dull gweithredu ar sail asedau, a chyfleu’r neges y gall holl bartneriaid y byrddau gwasanaethau cyhoeddus wella bywydau pobl hŷn. Mae fy Nghanllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cynnwys chwe mater allweddol y dylai pob bwrdd ei ystyried a rhoi sylw iddo. Un o’r rhain yw “Gostyngiad penodol yn nifer y bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yn yr Awdurdod Lleol...Gallai’r dangosyddion gynnwys: cynnydd yn nifer y bobl 50 oed a hŷn sy’n aros mewn gwaith neu sy’n dychwelyd i waith; cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n hawlio cymorth ariannol; a gostyngiad yn nifer y bobl hŷn sy’n profi effaith tlodi tanwydd”.

4.   Ceir camsyniadau o hyd nad yw cyni wedi effeithio ar bobl hŷn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Ond mae'r realiti yn wahanol iawn. Mae dros 112,000 o bobl hŷn yn byw mewn tlodi yng Nghymru, ac mae tlodi ymysg pobl hŷn wedi cynyddu ychydig yn y blynyddoedd diwethaf[6] [7]. Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd yn 2014, mae bron i 50,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi difrifol, ar £183.50 yr wythnos neu lai[8]. Yn ogystal â hyn, credir bod oddeutu 140,000 o aelwydydd hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd[9]. Mae ymchwil newydd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn awgrymu bod yna 300,000 mwy o bobl hŷn yn byw mewn tlodi yn y DU nag yn 2012/13[10]. Yn y grŵp oed hŷn, mae anghydraddoldebau ac amrywiadau sylweddol: mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl 75 oed a hŷn £59 yn waeth eu byd bob wythnos na phobl hŷn ‘iau’[11]. Fel y nodwyd yn fy ymateb i Ymchwiliad Cymunedau yn Gyntaf, nid yw tlodi ymysg pobl hŷn wedi'i gyfyngu i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.  Mae tlodi yn effeithio ar bobl hŷn ym mhob rhan o Gymru, mewn ardaloedd difreintiedig, ardaloedd trefol a gwledig ac mewn ardaloedd arfordirol. Mae hefyd yn effeithio ar bobl hŷn mewn ardaloedd mwy ffyniannus, lle ceir tlodi ‘cudd’, h.y. pobl hŷn sy'n gyfoethog o ran asedau ond yn dlawd o ran arian parod.

5.   Mae pob math o bethau'n achosi tlodi ymysg pobl hŷn – weithiau mae’r ffactorau hyn yn gymhleth, ac mae sawl un yn berthnasol yn aml iawn. Gall ffactorau gynnwys daearyddiaeth, iechyd, tai a’r gwasanaethau cynghori a gwybodaeth sydd ar gael. Bydd sut mae pobl hŷn yn gwella’u sefyllfa yn aml iawn yn dibynnu ar ble maent yn byw ac ar yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael. Bydd llawer o bobl hŷn yn canfod eu hunain mewn sefyllfa anodd ac yn methu dianc rhag effeithiau tlodi oherwydd bod eu hincwm yn isel neu'n ddisymud (nid oes gan dri chwarter y bobl hŷn dlotaf bensiwn preifat, er enghraifft[12]), oherwydd biliau ynni a chostau byw sy’n codi, oherwydd cyfraddau llog isel yn hanesyddol ar gynilion ac oherwydd prinder sgiliau digidol. Amcangyfrifir bod dros un rhan o dair o bobl hŷn wedi’u heithrio'n ddigidol yng Nghymru, yn enwedig y ‘bobl hŷn hynaf’[13]. Yn sgil hyn, bydd pobl hŷn yn colli allan ar hyd at £560 o arbedion drwy beidio â rheoli biliau a phrynu eitemau ar-lein[14].

6.   Mae gwahaniaethu fel hyn yn effeithio ar fywydau pobl ac ar eu gallu i osgoi tlodi. Y canlyniad yw ansawdd bywyd tlotach ac ambell un yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwres o ddydd i ddydd. Mae sefyllfaoedd o’r fath yn annerbyniol yng Nghymru. Dylent fod yn flaenoriaeth i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ac i bartneriaid allweddol eraill ar agenda pobl hŷn. Felly mae gallu byrddau gwasanaethau cyhoeddus i addasu i ffactorau tlodi lleol, a rhoi sylw iddynt, yn hanfodol.

Asesiadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus o Lesiant Lleol

7.   Mae asesiadau llesiant lleol, a gyhoeddwyd gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ym mis Mai 2017, wedi bod yn ddefnyddiol iawn i bwyso a mesur amrywiol faterion sy'n effeithio ar les pobl o bob oed. Mae'r asesiadau’n rhoi dadansoddiad manwl o’r sefyllfa bresennol, yn ogystal â syniad o heriau a chyfleoedd i'r byrddau cyn cyhoeddi’r Cynlluniau Llesiant Lleol ym mis Mai 2018.  Mae fy nhrosolwg i, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017, yn rhoi cyngor ac argymhellion ynglŷn â sut i adeiladau ar yr asesiadau o safbwynt pobl hŷn[15]. Roedd yn galonogol, er enghraifft, gweld asesiadau Casnewydd ac Abertawe yn rhoi sylw i’r niferoedd sy'n hawlio cymorth ariannol[16] [17], asesiad Conwy-Sir Ddinbych yn rhoi sylw i dechnolegau ac allgáu digidol a thlodi parhaus ymysg pobl hŷn sengl [18], a phob asesiad heblaw un yn rhoi sylw i dlodi tanwydd.

8.   Mae dros hanner yr asesiadau’n rhoi sylw i gyfleoedd gwaith i bobl 50 oed a hŷn a’r ffaith bod y gweithlu’n heneiddio, ond dim ond ambell un e.e. Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Gaerfyrddin sy’n rhoi sylw i ddysgu gydol oes[19] [20]. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy o waith i ystyried anghenion, dyheadau ac amgylchiadau pobl hŷn y tu hwnt i faes iechyd a gofal cymdeithasol. Fel y nodir yn Adroddiad 'Llesiant yng Nghymru’[21]Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, mae tlodi plant yn cael sylw ym mhob asesiad, ond ychydig iawn sy'n rhoi sylw i’r rhesymau dros dlodi ymysg pobl hŷn. Gan edrych i'r dyfodol at gyhoeddi’r Cynlluniau Llesiant Lleol yn 2018, mae’n rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus adeiladu ar y cyfeiriadau cadarnhaol hyn ac ystyried eu rôl yn codi pobl hŷn allan o dlodi.

Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth i Bobl Hŷn

9.   Mae angen ystod eang o atebion i fynd i’r afael â thlodi ymysg pobl hŷn. Mae sicrhau bod pobl hŷn yn aros yn y gweithle ac yn dychwelyd iddo yn un ateb y dylai pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei ystyried. Nid yw oed pensiwn y wladwriaeth yn berthnasol erbyn hyn i’r nifer gynyddol o bobl hŷn sy'n gweithio, ac mae llawer o bobl hŷn bellach yn dymuno gweithio – neu angen gweithio – am fwy o amser, er mwyn ychwanegu at eu hincwm a chryfhau eu gwydnwch ariannol yn nes ymlaen mewn bywyd. Er bod yr angen i weithio am fwy o amser yn amlwg, mae nifer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth aros mewn gwaith neu ddychwelyd i waith – gan gynnwys gwahaniaethu ar sail oed. 

10.               Mae mythau a stereoteipiau sy'n ymwneud â gweithwyr hŷn – fel presenoldeb gwael, cwestiynau ynglŷn â pha mor driw ydynt a’u gallu i addasu a chroesawu sgiliau newydd – yn dal yn gyffredin. Mae cyflogwyr o bob maint ledled Cymru yn gyndyn o gyflogi gweithwyr hŷn. Tynnwyd sylw at y materion hyn yn Ymchwiliad y Cynulliad Cenedlaethol i Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl dros 50 oed[22], ac mae cyfleoedd dysgu a gwaith i bobl hŷn bellach yn thema blaenoriaeth yn Heneiddio'n Dda yng Nghymru (rhagor o fanylion isod).

11.               Mae pawb yn elwa o gyflogi pobl hŷn: mae’n gwella gallu a gwydnwch ariannol unigolion ac felly’n lleihau’r tebygolrwydd o dlodi. Mae’n rhoi hwb i’r gweithle ac yn helpu i gryfhau economïau lleol a chenedlaethol. Mae gan bobl hŷn bob math o sgiliau, profiadau a gwybodaeth ond nid yw’r pethau hyn yn cael eu gwerthfawrogi ddigon nac yn cael eu defnyddio ddigon yng Nghymru. Er bod oddeutu 62,000 o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, mae bron i 200,000 o bobl rhwng 50 ac oed pensiwn y wladwriaeth yn yr un sefyllfa ond eto'n methu cael gafael ar yr un cymorth a chyngor[23] [24]. Ar ben hynny, er y bydd oddeutu 7 miliwn o bobl ifanc yn gadael addysg yn y degawd nesaf, bydd oddeutu13.5 miliwn o swyddi gwag[25]. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu nad yw helpu pobl hŷn i fynd yn ôl i fyd gwaith yn golygu bod pobl ifanc yn cael eu gwthio allan o’r farchnad lafur am ei bod hi’n rhy llawn, ac y gallai cynnwys pobl hŷn yn y farchnad roi hwb o £88 biliwn i gynnyrch domestig gros y DU[26]. Felly mae’n hanfodol bod cyflogwyr yng Nghymru yn ystyried manteision cyflogi pobl hŷn ac yn hybu gweithleoedd sy'n cynnwys pobl o bob oed ac yn pontio’r cenedlaethau.

12.               Mae hon yn her wirioneddol i lywodraethau ar bob lefel ac i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Dylai pob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus asesu’r gwahanol fathau o wasanaethau help a chymorth sydd ar gael i bobl hŷn sy'n chwilio am waith yn eu hardaloedd, a gweld pa help sydd ar gael i weithwyr hŷn sydd angen cymorth o bosib i ddiweddaru neu adnewyddu eu sgiliau e.e. sgiliau digidol er mwyn aros mewn gwaith. Dylai partneriaid byrddau gwasanaethau cyhoeddus edrych ar eu trefniadau eu hunain ar gyfer cefnogi gweithwyr hŷn, a dylai partneriaid addysg edrych ar gyfleoedd dysgu oedolion/gydol oes yn lleol, sy’n hanfodol er mwyn gwella rhagolygon cyflogadwyedd pobl hŷn. 

13.               Ni all Cymru fforddio colli'r sgiliau a’r profiadau o bob math sydd gan weithwyr hŷn, ac er bod gan Lywodraeth Cymru rywfaint o gynlluniau i adeiladu arnynt e.e. ymgyrch codi ymwybyddiaeth ‘Nid oes gan unrhyw un Ddyddiad ar ei Orau Cyn’ i gymell cyflogwyr i gyflogi pobl hŷn[27], y prentisiaethau bob oed[28] a’r Cynllun Cyflogadwyedd i Bob Oed sydd ar y gweill: mae’n rhaid i bartneriaid byrddau gwasanaethau cyhoeddus ystyried cynlluniau ac atebion lleol i sicrhau bod gweithwyr hŷn yn gallu aros yn y gweithle, a bod pobl hŷn sy'n chwilio am waith yn cael pob cyfle posib i ddod o hyd i waith mewn sectorau sy'n addas ar gyfer eu sgiliau a’u dyheadau. Mae angen gwneud mwy o lawer i annog cyflogwyr o bob maint i gydnabod manteision cyflogi pobl hŷn, ac i helpu pobl hŷn sy'n chwilio am waith i wella’u rhagolygon drwy gynlluniau hyfforddi, sgiliau a dysgu perthnasol.

Trafnidiaeth Gyhoeddus a Gwasanaethau Cymunedol

14.               Mae trafnidiaeth yn torri ar draws yr agenda pobl hŷn a dylai byrddau gwasanaethau cyhoeddus ystyried eu rôl yn trechu tlodi ymysg pobl o bob oed. Er mwyn galluogi a grymuso pobl hŷn i ddal ati i fod yn ofalwyr, yn weithwyr ac yn wirfoddolwyr mewn cymunedau rhaid cael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig o safon uchel. Os yw Cymru am wneud yn fawr o’i gweithwyr hŷn, mae darparu trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig bysiau cyhoeddus, a chludiant cymunedol, yn hanfodol. I bobl hŷn sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig a heb fynediad at gerbyd preifat, mae eu cysylltu â chyfleoedd cyflogaeth yn hanfodol. Mae’r un peth yn wir i bobl hŷn sy'n byw mewn ardal brin ei phoblogaeth lle mae tlodi gwledig a chysylltedd gwael yn bodoli. Er bod y cerdyn bws am ddim i bobl 60 oed a hŷn wedi gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl, rwyf wedi dweud droeon nad oes llawer o werth i gerdyn bws os nad oes bysiau ar gael. 

15.               Fel y dywed fy adroddiad a luniwyd yn 2014 ar wasanaethau cymunedol[29], mae dod â gwasanaethau i ben neu leihau’r ddarpariaeth, e.e. o ran dysgu gydol oes, canolfannau dydd/cymunedol, llyfrgelloedd, toiledau a bysiau cyhoeddus, wedi cael effaith dorcalonnus ar fywydau pobl hŷn ledled Cymru. Mae cael gwared ar y gwasanaethau hanfodol hyn yn effeithio ar iechyd meddyliol a chorfforol pobl hŷn, yn gwaethygu ansawdd eu bywyd ac yn eu gwneud yn fwy agored i amrywiaeth o broblemau iechyd a thlodi. Mae angen i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ystyried atebion arloesol a chreadigol sydd ddim yn costio llawer ond sy’n cael llawer o effaith, a chyflwyno’r gwasanaethau hanfodol hyn mewn ffyrdd newydd a gwahanol er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd pobl hŷn yn teimlo'n unig, yn ynysig yn gymdeithasol ac yn dioddef tlodi.

Cynyddu'r niferoedd sy’n hawlio cymorth ariannol

16.               I rai pobl hŷn sy'n byw mewn tlodi, nid yw aros mewn gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith yn opsiwn. Ateb allweddol arall i godi pobl allan o dlodi yw cynyddu’r niferoedd sy'n hawlio cymorth ariannol. Nid yw llawer o bobl hŷn yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, a hynny am nifer o resymau: Y cywilydd neu’r stigma maent yn meddwl sy'n gysylltiedig â hawlio, natur gymhleth y broses a’r gwaith papur beichus, yn ogystal â diffyg ymwybyddiaeth bod cymorth ar gael.

17.               Mae adroddiad 2014 Age Cymru ar dlodi ymysg pobl hŷn yn awgrymu nad yw oddeutu traean o bobl hŷn cymwys yn hawlio. Mae hawliadau fel Lwfans Gweini/Gofalwyr a Chredyd Pensiwn yn ffynonellau ariannol hanfodol i bobl hŷn sydd â hawl i’w cael. Ond mae Cymru yn dychwelyd gwerth £186 o Gredyd Pensiwn yn unig i’r Trysorlys bob blwyddyn[30]. Mae hyn yn £50/60 ychwanegol yn incwm wythnosol pobl, sy'n golygu y byddai'n haws iddynt ymateb i filiau ynni sy’n codi, prynu bwyd o well ansawdd, cael mynediad at weithgareddau a chyfleoedd eraill yn y gymuned, a chael gwell ansawdd bywyd yn gyffredinol gyda chanlyniadau cadarnhaol o ran iechyd a lles. Pe bai pawb yn hawlio’r cymorth ariannol y mae ganddo hawl iddo, yn ôl gwaith ymchwil, gallai hyn leihau un rhan o dair ar lefelau tlodi ymysg pobl hŷn[31].

18.               Yn y gorffennol, rwyf wedi galw am ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am hawliadau er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod pobl hŷn Cymru yn hawlio'r cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Mae ymchwil gan Age UK yn awgrymu mai cynyddu incwm pensiynwyr yw'r llwybr gorau allan o dlodi o hyd[32]. Mae ymgyrch 'Make the Call' yng Ngogledd Iwerddon yn fodel buddiol i’w ddilyn. Yn sgil yr ymgyrch honno, mae incwm wythnosol pobl hŷn wedi codi £60 a mwy[33]. Byddai’n fuddiol cael ymgyrch debyg yng Nghymru, gan ddefnyddio dulliau digidol ac fel arall i gyfleu'r neges i bobl hŷn mewn llefydd sy’n bwysig iddyn nhw e.e. trafnidiaeth gyhoeddus, neuaddau pentref, canolfannau dydd, canolfannau garddio, siopau trin gwallt a chlybiau chwaraeon a drwy gyfryngwyr dibynadwy, e.e. ffrindiau, teulu, gofalwyr a meddygon teulu.

19.               Gallai cyflwyno ymgyrch 'Mae Simon yn Dweud’  Caerffili fod yn fuddiol. Byddai modd defnyddio hyn i godi ymwybyddiaeth am hawliadau ac am faterion eraill e.e. cynlluniau a gwasanaethau sy'n helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd[34]. Mae cynlluniau cynyddu incwm yn dwyn budd i bawb: mae ymchwil yn Lloegr yn awgrymu bod £4-8 yn cael ei gynhyrchu ar gyfer yr economi leol am bob £1 a fuddsoddir mewn cynlluniau o’r fath[35].

20.               Dylai cynyddu nifer y bobl o bob oed sy'n hawlio cymorth ariannol fod yn fater o bwys i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Yn yr un modd â chyfleoedd gwaith i bobl hŷn, mae sicrhau bod pobl hŷn yn hawlio'r cymorth sydd ar gael yn dwyn budd i bawb. Byddai’n helpu pobl hŷn i ddod allan o’r cylch dieflig o dlodi. Mae hawliadau ariannol yn fater i holl bartneriaid y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, nid dim ond i wasanaethau gwybodaeth a chyngor. Er enghraifft, gall gwasanaethau brys sy’n mynd i dai pobl gyfeirio pobl at wasanaethau gwybodaeth a chyngor drwy’r system 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif'[36]. Wrth i’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ddod i ben, mae’n rhaid i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardaloedd hyn ystyried darpariaethau eraill a beth yw’r ffordd orau o wella sefyllfaoedd ariannol pobl hŷn. Yn y gorffennol, rwyf wedi dweud bod Cymunedau yn Gyntaf yn ffordd o wella cynhwysiant ariannol pobl hŷn[37].

21.               Ar nodyn perthnasol, mae sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o beryglon sgamiau, ac yn gwybod sut mae gofyn am help i atal sgamiau, yn hanfodol. Mae sgamiau, y cyfeirir atynt o ddewis fel troseddau ariannol, yn gallu cael effaith drychinebus ar fywydau pobl, ac mae pobl hŷn yn colli £1,200 o’u cynilion ar gyfartaledd ar sgamiau. Dylai byrddau gwasanaethau cyhoeddus ystyried cysylltiadau gyda Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau (WASP)[38], atal sgamiau mewn ffordd gydlynol a helpu i wella gwydnwch pobl a’u hymwybyddiaeth o’r troseddau ariannol hyn.

Heneiddio'n Dda yng Nghymru a Dangosyddion Cenedlaethol

22.               Dyma ddau faes lle gall byrddau gwasanaethau cyhoeddus wneud gwahaniaeth a chymryd camau sy’n helpu i leihau nifer y bobl hŷn sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Bydd hyn yn cyd-fynd â Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23 a Heneiddio'n Dda yng Nghymru hefyd. Heneiddio'n Dda yw’r rhaglen bartneriaeth genedlaethol i wella iechyd a lles pobl 50 oed a hŷn yng Nghymru[39]. Mae Heneiddio’n Dda yn gweithio ar bob lefel i helpu i wneud Cymru yn lle da i heneiddio i bawb. Mae gan bob Awdurdod Lleol gynllun Heneiddio'n Dda[40], a drwy wreiddio’r rhain yn eu gwaith a rhoi sylw i'r themâu blaenoriaeth, e.e. cymunedau sy’n cefnogi pobl â dementia ac sy'n ystyriol o oedran, cyfleoedd dysgu a gwaith a mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, bydd byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gwella ansawdd bywyd pobl hŷn ac yn helpu i fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd tlodi ymysg pobl hŷn. 

23.               Yng nghyd-destun Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, mae pob un o’r saith targed llesiant cenedlaethol yn berthnasol i bobl hŷn, a bydd rhai o'r dangosyddion cenedlaethol yn hanfodol wrth bwyso a mesur sut mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn helpu i leihau tlodi ymysg pobl o bob oed e.e. Canran y bobl sy'n byw mewn cartrefi â thlodi incwm cymharol i ganolrif y Deyrnas Unedig: wedi'i fesur ar gyfer plant, pobl oed gwaith a phobl oed pensiwn; Canran y bobl sy'n byw mewn cartrefi mewn amddifadedd materol[41].

Casgliad

24.               Gan edrych i’r dyfodol, rwy'n disgwyl y bydd sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl hŷn yn nod greiddiol yng Nghynlluniau Llesiant Lleol y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy’n disgwyl i holl bartneriaid y byrddau gwasanaethau cyhoeddus gydweithio i sicrhau iechyd, annibyniaeth a lles pobl hŷn; i groesawu’r cyfleoedd sy'n cyd-fynd â phoblogaeth sy'n heneiddio; ac i gynnig atebion sy'n helpu i gryfhau gwydnwch emosiynol, corfforol ac ariannol pobl hŷn. Dylai hyn gael ei egluro ar ffurf ymrwymiad clir a chamau, heddiw ac yn y dyfodol, i liniaru’r hyn sy'n achosi tlodi i bobl hŷn. 

25.               Er bod sawl ffactor yn gallu achosi tlodi i bobl hŷn yn aml iawn, gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus wneud byd o wahaniaeth i ansawdd bywyd pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi drwy gymryd camau penodol ac ymrwymo i gynyddu incwm a gwarchod pobl hŷn rhag troseddau ariannol. Gallent wneud hynny drwy:

Ø hyrwyddo gwasanaethau gwybodaeth a chyngor er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn hawlio’r cymorth ariannol sydd ar gael iddynt;

Ø codi ymwybyddiaeth o gynlluniau sy’n helpu i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd;

Ø codi ymwybyddiaeth am beryglon sgamiau a'r angen i wella gwydnwch ariannol yn nes ymlaen mewn bywyd; a

Ø  rhoi sylw i broblemau trafnidiaeth gyda chwmnïau a phartneriaid allweddol i leihau costau i unigolion a sicrhau bod pobl yn gallu bod yn egnïol a mynd o un lle i’r llall.

26.               Byddaf yn parhau i weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i hyrwyddo’r agendâu llesiant ac atal ar gyfer pobl hŷn, i annog holl bartneriaid y byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi dulliau gweithredu ar sail asedau a chyfrannu atynt, ac i helpu i wneud yn siŵr bod llai o bobl hŷn yn wynebu effeithiau trychinebus a phellgyrhaeddol tlodi yng Nghymru.

 

 

 



[1] http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?ID=281

[2]http://senedd.cynulliad.cymru/documents/s63289/CF%2008%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf

[3]http://senedd.cynulliad.cymru/documents/s36187/PIW%2008%20S4%20Older%20Peoples%20Commissioner%20for%20Wales.pdf

[4] http://www.olderpeoplewales.com/wl/Publications/pub-story/16-10-05/Preparing_Local_Wellbeing_Plans_Guidance_for_Public_Services_Boards.aspx#.WifWNeN2sdU

[5] http://www.olderpeoplewales.com/wl/news/news/13-05-23/Framework_for_Action.aspx#.WiZstON2sdU

[6] https://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/age-cymru-calls-for-fulfilled-lives-and-a-decent-income-for-older-people/

[7] https://www.bevanfoundation.org/news/2016/07/wales-poverty-progress-disappointing-says-bevan-foundation/

[8] https://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/archive/50000-welsh-pensioners-live-in-severe-poverty/

[9] http://www.nea.org.uk/wp-content/uploads/2016/04/Manifesto-Fuel-Poverty-Statistics.pdf

[10] https://www.jrf.org.uk/press/uk-poverty-2017-country-reaches-turning-point

[11] https://www.politicshome.com/news/uk/economy/interview/independent-age/74971/poverty-and-silent-generation-new-research-destroys

[12] http://www.contact-the-elderly.org.uk/SM4/Mutable/Uploads/medialibrary/6860-Age-Alliance-Report-B.pdf

[13] http://gov.wales/docs/dsjlg/publications/comm/160316-digital-inclusion-strategic-framework-cy.pdf

[14] http://www.housing.org.uk/policy/investing-in-communities/federation-support-for-community-investment/digital-inclusion/

[15]http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/OPCW_Overview_PSB_Assessments_of_Local_Wellbeing_CYM.sflb.ashx

[16] http://onenewportlsb.newport.gov.uk/documents/One-Newport/Community-Well-being-Profile-Final-2017.pdf

[17] http://www.abertawe.gov.uk/asesiadbgc

[18] http://conwyanddenbighshirelsb.org.uk/home/english-wellbeing-assessment/

[19] http://www.bridgend.gov.uk/media/424479/wba-final-cymraeg.pdf

[20] http://www.ysirgaragarem.cymru/media/8179/asesiad-llesiant-bgc.pdf

[21] https://futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2017/07/CCDC_Llesiant_yng_Nghymru_cynllunio_heddiw_ar_gyfer_gwell_yfory_2017_edit-1.pdf

[22] http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10305/cr-ld10305-w.pdf

[23] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Business-Economy-and-Labour-Market/People-and-Work/Economic-Inactivity/economicinactivityratesexcludingstudents-by-welshlocalarea-year

[24] https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Business-Economy-and-Labour-Market/People-and-Work/Unemployment/ILO-Unemployment/ilounemploymentrates-by-welshlocalareas-year

[25] http://www.acas.org.uk/index.aspx?articleid=3726

[26] https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/611460/independent-review-of-the-state-pension-age-smoothing-the-transition.pdf

[27] http://gov.wales/newsroom/educationandskills/2017/170517-no-best-before-date-for-welsh-workers/?skip=1&lang=cy

[28] http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/apprenticeships/?skip=1&lang=cy

[29] http://www.olderpeoplewales.com/wl/news/news/14-02-25/The_Importance_and_Impact_of_Community_Services_within_Wales.aspx#.WifjYON2sdU

[30] https://www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-publications-1/life-on-a-low-income-1-/

[31] http://www.bevanfoundation.org/publications/poverty-and-social-exclusion-in-wales-2/

[32] http://www.futureyears.org.uk/uploads/files/Age%20UK%20on%20poverty%20in%20old%20age.pdf

[33] https://www.nihe.gov.uk/news-over-60s-urged-to-check-benefit-entitlements-2

[34] http://www.caerphilly.gov.uk/News/News-Bulletin/October-2016/Simon-Says-check-what-you-re-entitled-to?lang=cy-gb

[35] http://usir.salford.ac.uk/19311/3/Final_technical_report.pdf

[36] http://www.mawwfire.gov.uk/english/newsroom/news/Pages/Making-Every-Contact-Count-(MECC)-Presentation.aspx

[37] http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11238/cr-ld11238-w.pdf

[38] https://www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-networks-1/wales-against-scams-partnership-wasp/

[39] http://www.ageingwellinwales.com/wl/home

[40] http://www.ageingwellinwales.com/wl/localplans

[41] http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/national-indicators/?skip=1&lang=cy