Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

1.Cyflwyniad

1.1.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru ers dros hanner canrif.  

2. Sylwadau Cyffredinol

2.1. Credwn fod y prif ystyriaethau o ran y Gymraeg yw'r materion canlynol:

·         Nodi iaith, neu iaith addysg, y plentyn

·         Sicrhau y diwallir anghenion iaith y plentyn wrth ddarparu cymorth

·         Y Gymraeg yn y Tribiwnlys Addysg

3. Sylwadau Penodol

3.1. Credwn nad yw'r ddyletswydd I 'gymryd pob cam rhesymol' yn ddigonol er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg. Dylai fod yn hawl absoliwt i dderbyn darpariaeth yn Gymraeg. Awgrymwn y dylid ystyried y geiriad 'ymdrechion gorau?' yn lle yn adrannau 10(6)(b) a 12(10)(c) y Mesur.

3.2. Yn adran 63, credwn y dylai fod hawl i apelio i'r Tribiwnlys os nad yw'r ddarpariaeth yn Gymraeg. Credwn yn ogystal y dylid sicrhau bod y Tribiwnlys yn gweithredu drwy'r Gymraeg.

3.3. Credwn fod angen dyletswyddau ar y Llywodraeth a Byrddau Iechyd i gynllunio'r gweithlu fel bod canran cynyddol yn gallu gweithio drwy'r Gymraeg. Pryderwn am y sefyllfa gyfredol lle mae awdurdod lleol yn gyfrifol am brynu gwasanaeth Cymraeg os nad yw'r Bwrdd Iechyd yn gallu darparu cymorth Cymraeg.

3.4. Gan ystyried pwysigrwydd cydlynwyd anghenion dysgu ychwanegol. Credwn y dylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i'r gweithwyr sy'n gwasanaethu sefydliadau addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog a dylid nodi hynny yn Adran 54(4) y Mesur.

3.5. Yn Adran 60(2), credwn y dylid ychwanegu dyletswydd i ddarparu nwyddau a gwasanaethau darpariaeth dysgu ychwanegol yn Gymraeg.

Grŵp Addysg

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg